Rhaeadr Dyserth
Ger Gwesty’r Traethau
Mae Rhaeadr Dyserth, man prydferth iawn, 10 munud i ffwrdd mewn car o Westy’r Traethau . Gallwch gerdded wrth ymyl y rhaeadr a’r muriau cerrig mawr y credir eu bod wedi cynnal olwyn y felin ar un adeg. Ewch am dro i fyny’r bryn gerllaw i fwynhau golygfeydd i gyfeiriad Prestatyn a Môr Iwerddon.
Mae maes parcio bach gerllaw neu gallwch gerdded yno ar hyd Llwybr Prestatyn-Dyserth, taith 3 milltir, tua awr o hyd. Byddwch yn cerdded ar hyd llwybr hen reilffordd y chwarel ac yn mynd heibio ardal goediog. Gerllaw’r rhaeadr mae siop fach yn gwerthu hufen iâ a diodydd – perffaith ar ddiwrnod braf.
Dyma Fap Llwybr Prestatyn-Dyserth gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Rhaeadr Dyserth
Ffordd y Rhaeadr
Dyserth
Sir Ddinbych
LL18 6ET
Ar agor drwy’r flwyddyn. Mynediad AM DDIM. Darllen mwy.
Hawfraint y llun Ffotograffydd Joe Quinn (2015)
Pam Aros gyda Ni
Ar ôl diwrnod yn Rhaeadr Dyserth, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyffordddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden a mwynhau ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**