Traeth Talacre
Ger Gwesty’r Traethau
Beth am ymweld â Thraeth Talacre a’i filltiroedd o dywod euraidd ger aber afon Dyfrdwy, lle ceir golygfeydd eang i gyfeiriad Cilgwri.
Hwyl ar lan y môr yn Nhraeth Talacre
Un o nodweddion amlycaf Talacre yw Goleudy’r Parlwr Du. Mae’n dyddio’n ôl i 1776 ac er iddo gael ei ddatgomisiynu yn 1884 mae’n dal i sefyll yn dalsyth 18 metr uwchben y traeth. Mae Talacre yn gartref i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt hefyd, gan gynnwys llyffant y twyni sydd hefyd yn byw yn nhwyni tywod Gronant gerllaw.
Mae nifer o siopau a chaffis gerllaw ac mae’r traeth tua 10 munud i ffwrdd mewn car o Westy’r Traethau. Gallech dreulio’r diwrnod cyfan yno gyda’r teulu, felly beth am afael mewn pwced a rhaw a dechrau palu! Beth am fwynhau pysgod a sglodion o’r siopau gerllaw, neu ewch â phicnic gyda chi.
Mae digonedd o le i barcio (codir tâl – mae’r cyfraddau yn amrywio) ac mae sawl llwybr cerdded difyr yn ardal Talacre – mae’n lle perffaith i fynd â’r ci am dro. Os ydych yn mwynhau cerdded, gallwch gerdded i bentref a thraeth Talacre drwy dwyni tywod Gronant, taith tua awr o hyd.
Maes Parcio Traeth Talacre
Ffordd yr Orsaf
Talacre
Treffynnon
CH8 9RP
Lluniau: Croeso Cymru
Pam Aros gyda ni yng Ngwesty’r Traethau
Mae digonedd o bethau i’w gwneud yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau. Ar ôl diwrnod prysur, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**