Twyni Tywod Gronant
Ger Gwesty’r Traethau
Mae Twyni Tywod Gronant, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), yn ymestyn o Brestatyn i Draeth Talacre a goleudy eiconig y Parlwr Du. Gallwch gerdded i’r ardal arbennig hon ar arfordir Gogledd Cymru ymhen ychydig funudau o Westy’r Traethau, ar hyd Traeth Barkby.
Twyni Tywod Gronant
Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd Traeth Barky wrth i chi adael Gwesty’r Traethau Hotel o Far y Promenâd a dilynwch yr arwyddion pren i gyfeiriad y twyni. Mae llwybr estyll hardd yn ymestyn i’r twyni gan roi golygfa wych ar draws y môr a’r traeth islaw. Mae’r llwyfannau gwylio yn lle perffaith i wylio bywyd gwyllt.
Fel ardal gadwraeth a gwarchodfa natur, mae Twyni Tywod Gronant yn cynnal planhigion prin fel celyn y môr, moresg a pheiswellt prin y twyni, heb sôn am anifeiliaid ac adar fel yr ysgyfarnog, ehedydd, y wenynen durio a’r gwyfyn prin, gwladwr y twyni. Cadwch lygad am lyffant y twyni sydd wedi cael ei ailgyflwyno yma ynghyd â madfall y tywod. Rhwng 2003 a 2006 cafodd madfallod y tywod ifanc, sy’n frîd mwy, eu hailgyflwyno i dwyni Gronant wedi iddynt ddiflannu.
Mae’r gaeaf yn amser gwych i ymweld â thwyni Gronant a gall adarwyr fwynhau gwylio adar hirgoes ac adar dŵr. Bydd cerddwyr a phobl sy’n mynd â chŵn am dro yn mwynhau’r llwybrau a’r golygfeydd amrywiol o Draeth Barkby i Dalacre.
Twyni Tywod Gronant
Prestatyn
LL19 9SS
Hawlfraint y Llun: Croeso Cymru
Pam Aros gyda ni ym Mhrestatyn
Mae digonedd o weithgareddau i’w mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau ar Draeth Barkby. Ar ôl diwrnod prysur, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**