Cystadleuaeth Cân Eurovision
Lerpwl 2023
Bydd Lerpwl yn cynnal y 67fed Cystadleuaeth Cân Eurovision ar ran Wcráin yn 2023. Cynhelir rownd derfynol Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Arena Lerpwl ger afon Mersi ddydd Sadwrn, 13 Mai a’r rowndiau cyn-derfynol ddydd Mawrth, 9 Mai, a dydd Iau, 11 Mai. Mae Lerpwl ychydig dros awr i ffwrdd mewn car o Westy’r Traethau, gwesty 4 seren, felly mae’n lleoliad delfrydol os ydych yn bwriadu mynd i weld y gystadleuaeth yn 2023.
Eurovision 2023
Bydd y BBC, gyda’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU), yn trefnu Cystadleuaeth 2023 mewn ymgynghoriad â UA:PBC, darlledwr cyhoeddus Wcráin ac enillydd y Gystadleuaeth y llynedd. Dewiswyd dinas Lerpwl ar ôl cyflwyno bid llwyddiannus a oedd yn ystyried cyfleusterau’r lleoliad; y gallu i gynnal y miloedd o bobl fydd yn cymryd rhan, y criw, cefnogwyr a newyddiadurwyr; seilwaith; a chynnig diwylliannol y Ddinas Wadd o ran adlewyrchu camp Wcráin yn 2022.
Pam Aros gyda Ni
Gwesty’r Traethau, gwesty 4 seren, yw’r dewis perffaith wrth chwilio am westy ger dinas Lerpwl sydd ychydig dros awr i ffwrdd o’r gwesty. Mae ein gwesty yn cynnig dewis o ystafelloedd moethus, gwasanaeth o’r radd flaenaf, amrywiaeth o ddewisiadau bwyta gan gynnwys Bar a Bistro’r Promenâd sy’n cynnig bwyd gwych a golygfeydd godidog. Ar ôl noson dda o gwsg, gallwch gael y dechrau perffaith i’ch diwrnod a mwynhau brecwast blasus Cymreig. Archebwch eich gwesty ger Lerpwl heddiw i fwynhau prisiau a llety sy’n cynnig gwerth gwych am arian.
Cyrraedd yma o Lerpwl
Mae Gwesty’r Traethau yn nhref Prestatyn, sydd 20 munud i ffwrdd o Gyffordd 31 oddi ar ffordd y B5122 ac mae o fewn cyrraedd hwylus i Lerpwl ar amryw o rwydweithiau trafnidiaeth, gan gynnwys Gorsaf James Street, Lerpwl, yr orsaf agosaf yn y ddinas atom ni. Os ydych yn teithio mewn awyren, mae Maes Awyr Lerpwl tua 1 awr 10 munud i ffwrdd o’r gwesty. Os ydych yn cyrraedd mewn car, gall gwesteion barcio am ddim yng Ngwesty’r Traethau.
Argymhellion Tacsis:
•Diane’s Taxi – 01745 855536
• Octavia Taxi – 01745 797879
• Robert’s Taxi – 01745 888444