Teithiau Bws
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Mae Gwesty’r Traethau, gwesty 4 seren, yn falch iawn o groesawu teithiau bws o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r byd i dref hardd Prestatyn ar arfordir Gogledd Cymru. Dewch i aros yn ein gwesty moethus a mwynhau golygfeydd o Fôr Iwerddon a bryniau Prestatyn, ynghyd â mynediad uniongyrchol i draeth godidog Barkby.
Llety ar gyfer Teithiau Bws ar arfordir Gogledd Cymru
Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig dewis eang o ystafelloedd moethus sy’n bodloni anghenion pawb ar eich Taith Bws. Cysylltwch â ni heddiw a gallwn gynnig y pecyn perffaith ar gyfer eich anghenion llety a’ch cyllideb.