Triathlon Llandudno
2024
Eleni bydd y Triathlon yn dychwelyd am yr ail waith i dref wyliau boblogaidd Llandudno. Mae Llandudno ychydig dros 20 milltir/45 munud i ffwrdd felly mae Gwesty’r Traethau, gwesty 4 seren, yn lle delfrydol i aros, p’un a ydych chi’n cymryd rhan yn y Triathlon neu’n dod i wylio’r ras. Cynhelir y Triathlon ym mis Hydref, pan fydd Môr Iwerddon yn dal yn eithaf cynnes, felly mae’n amser gwych i herio eich hun ar y darn hardd hwn o arfordir Cymru.
Triathlon Llandudno 2024
Bydd yr athletwyr yn dechrau drwy nofio o dan y pier Fictoraidd eiconig sy’n lle delfrydol i gefnogwyr wylio’r ras, cyn mynd ar gefn beic ar hyd Marine Drive, y ffordd olygfaol sy’n mynd o amgylch y Gogarth – bydd y ffordd wedi’i chau i draffig yn ystod y ras. Mae rhedeg ar hyd y promenâd yn brofiad arbennig a bydd y bobl sy’n gwylio yn cynnig croeso cynnes Cymreig sydd mor nodweddiadol o ddigwyddiadau Always Aim High bob cam o’r ffordd i’r llinell derfyn.
Pam Aros gyda ni
Gwesty’r Traethau, gwesty 4 seren yw’r dewis perffaith os ydych yn chwilio am westai gerllaw Llandudno. Mae’r gwesty ychydig dros 20 milltir/45 munud i ffwrdd. Mae ein gwesty yn cynnig amryw o ystafelloedd moethus, gwasanaeth o’r safon uchaf, pob math o ddewisiadau bwyd gan gynnwys Bar a Bistro’r Promenâd lle gallwch fwynhau bwyd gwych a golygfeydd godidog. Gall gwesteion ddefnyddio ein pwll nofio cynnes, dan do, sawna, jacuzzi a champfa yn ystod eu harhosiad, y lle perffaith i ddod atoch eich hun ar ôl cymryd rhan yn y Triathlon.