Ystafelloedd Teulu Arbennig ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafeloedd Teulu Arbennig gyda Golygfeydd o’r Môr yn cynnwys yr un cyfleusterau â’r Ystafelloedd Teulu Arbennig gyda Golygfeydd o’r Mynyddoedd, ond gyda golygfa godidog o’r môr.
Ystafelloedd Teulu Arbennig gyda Golygfeydd o’r Môr yng Ngogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd Teulu Arbennig gyda Golygfeydd o’r Môr yn dawel ac yn eang, ac wedi’u dodrefnu mewn lliwiau a deunyddiau croesawgar, sy’n berffaith ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod prysur ar Draeth Barkby gerllaw. Mae ein hystafelloedd teulu yn addas ar gyfer teuluoedd o bump. Ar ôl cyrraedd bydd plant yn derbyn taleb ar gyfer hufen iâ neu ddiod am ddim. Mae ein holl Ystafelloedd Teulu yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite a nwyddau ymolchi am ddim, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim, a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de /coffi.
Nofio yn ein Gwesty Cyfeillgar i Deuluoedd
Fel ein gwesteion, mae croeso i chi a’ch teulu ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio mawr, modern, sawna ac ystafell stêm a champfa. Felly hyd yn oed os bydd hi’n ddiflas ac yn wlyb y tu allan gallwch bob amser fynd i’r pwll nofio i fwynhau.
Bwyta i’r Teulu ym Mhrestatyn
Ar ôl mwynhau diwrnod cyffrous allan fel teulu yng Ngogledd Cymru, bydd pawb yn awchu am fwyd. Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig dewisiadau sy’n addas i bawb, gan gynnwys Bar a Bistro’r Promenâd lle gall plant ddewis o fwydlen arbennig. Gallwn addasu ein bwydlen i blant yn ôl gofynion deietegol gwahanol, felly gofynnwch i aelod o’n staff profiadol os hoffech gael cymorth neu gyngor. Yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn, rydym yn ymfalchïo mewn cynnig croeso i deuluoedd ac mae ein holl brydau yn cynnwys y gorau o gynnyrch lleol i greu profiad arbennig.
Gweithgareddau ac Atyniadau Hwyliog i’r Teulu
Prestatyn yw’r lle perffaith i fwynhau gwyliau cofiadwy gyda’r teulu yng Ngogledd Cymru. Mae digonedd o bethau difyr i deuluoedd eu mwynhau heb grwydro ymhellach o’r gwesty ac ardaloedd prydferth cyfagos Gogledd Cymru. Mae’r dewisiadau yn ddiddiwedd ac mae rhywbeth at ddant pawb. Mae lleoliad perffaith ein gwesty cyfeillgar yn golygu bod Traeth Barkby ar garreg y drws. Hefyd, mae maes chwarae gwych i blant o fewn cyrraedd hwylus i Westy’r Traethau, bum munud i ffwrdd ar droed. Bydd ein tîm cyfeillgar yn y dderbynfa yn hapus iawn i gynnig awgrymiadau os ydych yn chwilio am gyngor wrth gynllunio diwrnod allan gyda’r teulu sy’n cynnwys antur, hwyl ar lan y môr, hanes neu fywyd gwyllt a golygfeydd godidog.